Cynhyrchwyd ein cwrs blaenllaw newydd ‘Cynllunio: O’r Dechrau i’r Diwedd’ yn benodol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn gyflwyniad perffaith i, neu’n fodd o loywi, holl agweddau y system gynllunio yng Nghymru.
Bydd y llwyfan yn eich galluogi i:
- Adeiladu eich gwybodaeth am gynllunio.
- Dysgu sut mae’r system gynllunio yn gweithio yng Nghymru a gwella eich cyfranogiad yn y broses gynllunio
- Dysgu ble a phryd y dymunwch
- Mae ein hyfforddiant ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n methu mynychu ein cyrsiau wyneb yn wyneb. Gellir cael gafael arnynt pryd bynnag a ble bynnag y dymunwch (yn dibynnu ar fynediad i’r rhyngrwyd!).
Bydd y cwrs yn cymryd tua 2 awr i’w gwblhau ar un tro, neu gellir ei weld mewn rhannau (rhennir y cwrs i 20+ o sesiynau fideo byrion).
Beth yw cynnwys y cwrs?
Mae’r cwrs yn darparu cyflwyniad i’r pynciau canlynol:
- Trosolwg – sut mae cynllunio yn gweithio a phwy yw pwy mewn cynllunio yng Nghymru.
- Polisi Cynllunio – polisi cenedlaethol, Cynlluniau Datblygu Lleol a Chynlluniau Cynefin.
- Ceisiadau Cynllunio – sut y prosesir ceisiadau cynllunio, sut y gwneir penderfyniadau a sut i ymateb i geisiadau cynllunio.
- Rol Cynghorau Cymuned a Thref yn yr uchod.
Gallwch weld rhestr lawn pynciau’r cwrs gyferbyn / isod.
Sampl o Fideo
Sut mae archebu?
I archebu tanysgrifiad un flwyddyn i’r cwrs hwn, cliciwch ar y botwm isod.
Gellir darparu mynediad llawn i’r cwrs ar gyfer hyd at 20 aelod o gyngor cymuned unigol am £175/y flwyddyn.
Archebu ‘Cynllunio: O’r Dechrau i’r Diwedd’ yma >>