Cynllunio: O’r Dechrau i’r Diwedd

Current Status
Not Enrolled
Price
£175
Get Started
This course is currently closed


Cynhyrchwyd ein cwrs blaenllaw newydd ‘Cynllunio: O’r Dechrau i’r Diwedd’ yn benodol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
 Mae’r cwrs yn gyflwyniad perffaith i, neu’n fodd o loywi, holl agweddau y system gynllunio yng Nghymru.

Bydd y llwyfan yn eich galluogi i:

  • Adeiladu eich gwybodaeth am gynllunio.
  • Dysgu sut mae’r system gynllunio yn gweithio yng Nghymru a gwella eich cyfranogiad yn y broses gynllunio
  • Dysgu ble a phryd y dymunwch
  • Mae ein hyfforddiant ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n methu mynychu ein cyrsiau wyneb yn wyneb.  Gellir cael gafael arnynt pryd bynnag a ble bynnag y dymunwch (yn dibynnu ar fynediad i’r rhyngrwyd!).

Bydd y cwrs yn cymryd tua 2 awr i’w gwblhau ar un tro, neu gellir ei weld mewn rhannau (rhennir y cwrs i 20+ o sesiynau fideo byrion).

Beth yw cynnwys y cwrs?
Mae’r cwrs yn darparu cyflwyniad i’r pynciau canlynol:

  • Trosolwg – sut mae cynllunio yn gweithio a phwy yw pwy mewn cynllunio yng Nghymru.
  • Polisi Cynllunio – polisi cenedlaethol, Cynlluniau Datblygu Lleol a Chynlluniau Cynefin.
  • Ceisiadau Cynllunio – sut y prosesir ceisiadau cynllunio, sut y gwneir penderfyniadau a sut i ymateb i geisiadau cynllunio.
  • Rol Cynghorau Cymuned a Thref yn yr uchod.

Gallwch weld rhestr lawn pynciau’r cwrs gyferbyn / isod.

Sampl o Fideo




Sut mae archebu?
I archebu tanysgrifiad un flwyddyn i’r cwrs hwn, cliciwch ar y botwm isod.

Gellir darparu mynediad llawn i’r cwrs ar gyfer hyd at 20 aelod o gyngor cymuned unigol am £175/y flwyddyn.

Archebu ‘Cynllunio: O’r Dechrau i’r Diwedd’ yma >>